Ehangu Gorwelion gydag Ecwiti BYW
Agenda
09:00 - 09:10
Cyflwyniad a Chroeso
Cyflwyniad i’r digwyddiad gan Jamie Owen
09:10 - 10:00
Y Gelfyddyd o Godi Arian – Teithiau Personol a Pharatoi ar gyfer Buddsoddi
Digwyddiad gwych i fusnesau sydd am ddatblygu eu dealltwriaeth o gyllid ecwiti. P'un a ydych chi'n ddechreuwr technoleg ar eich rownd gyntaf neu'n fusnes sefydledig sy'n ceisio cyflymu'ch twf, clywch fewnwelediadau ymarferol ac awgrymiadau gan banel amrywiol o berchnogion busnes a buddsoddwyr sydd â phrofiad bywyd go iawn o godi arian. Deall meysydd allweddol fel prisio a sut y gellir strwythuro ecwiti a chael eich ysbrydoli gan straeon y rhai sydd wedi codi ecwiti yn llwyddiannus ac ehangu gorwelion eu busnes.
Prif siaradwyr:
-
Lucy Mayer-Page - Cyfarwyddwr Masnachol, Vista
-
Patrick Dodds – Prif Swyddog Gweithredol, Hexigone Inhibitors
-
Jonathan Hollis - Partner Rheoli, Mountside Ventures
-
Alex Leigh - Uwch Swyddog Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru
10:00 - 10:40
Angylion Busnes – Dod o hyd i’r buddsoddwr gorau i chi
Gall cael y gefnogaeth gywir gan yr Angylion Busnes cywir yrru'ch busnes i lefelau newydd. Mae panel arbenigol o Angylion a pherchnogion busnes, yn trafod sut i gael y gorau i chi ac yn bwysicach fyth, sut i fod yn 'barod ar gyfer buddsoddwyr' pan ddaw'r cyfle. Yn ogystal, bydd y digwyddiad hefyd yn archwilio mythau cyffredin ynghylch Angylion Busnes ac yn trafod sut y gall buddsoddiad angylion weithio ochr yn ochr ag offer ariannol eraill.
Prif siaradwyr:
-
Jenny Tooth OBE - Prif Swyddog Gweithredol, UK Business Angels Association
-
Steve Holt - Cyfarwyddwr, Angylion Buddsoddi Cymru
-
Rodney Appiah - Buddsoddwr
10:50 - 11:30
Gwerth Cyfarwyddwyr Anweithredol
Gall bod yn Brif Swyddog Gweithredol neu'n Rheolwr Gyfarwyddwr fod yn unig. At bwy ydych chi'n troi am gyngor a chefnogaeth? Mae'r digwyddiad hwn yn trafod manteision cael Cyfarwyddwyr Anweithredol yn eich busnes. Cewch glywed gan banel o Gyfarwyddwyr Anweithredol profiadol a pherchnogion busnes ynghylch pam y gall cael bwrdd cytbwys a phrofiadol ychwanegu gwerth i'ch busnes. Mynnwch awgrymiadau ymarferol ar sut i ehangu'ch bwrdd a chynyddu ei effeithiolrwydd. Digwyddiad defnyddiol i'r busnesau hynny sydd o ddifrif ynglŷn â gweithio gyda buddsoddwyr.
Prif siaradwyr:
-
Alison Thorne - Sylfaenydd atconnect
-
Sherry Coutu CBE - Entrepreneur ac Angel Busnes
-
Kate Bache - Entrepreneur, Sylfaenydd Health & Her
11:30 - 12:00
Pam nad yw byth yn rhy gynnar i gychwyn eich cynllun olyniaeth busnes
Cynllunio olyniaeth yw un o'r pethau pwysicaf y gall perchennog busnes ei wneud, ond yn aml dyma'r peth olaf rydych chi am feddwl amdano. A yw'r ffordd rydych chi am wireddu gwerth o'ch busnes yn cyd-fynd â'ch nodau olyniaeth? Pa mor bwysig yw gadael etifeddiaeth a gwarchod swyddi? Pa rôl y gall buddsoddwyr ei chwarae wrth gefnogi eich uchelgeisiau olyniaeth busnes? Gwrandewch ar straeon olyniaeth bywyd go iawn gan banel o fusnesau, buddsoddwyr a chynghorwyr a chael cyngor ar gynllunio olyniaeth, bargeinion olyniaeth a sut mae strwythuro rhywbeth sy'n gweithio i bob parti bob amser yn allweddol.
Prif siaradwyr:
-
Steve Lanigan – Prif Swyddog Gweithredol, ALS People
-
Beth Cousins – Cyfarwyddwr Busnes Newydd, Banc Datblygu Cymru
-
Frank Holmes – Entrepreneur, Sylfaenydd Gambit Finance
-
Branwen Eillis - Cynghorydd Busnes, Busnes Cymdeithasol Cymru
12:00 - 12:30
Siaradwr ysgogol - Lowri Morgan
Mae'r darlledwr Lowri Morgan, sydd â BAFTA i’w henw, yn gwybod yn well na neb yr agwedd a'r cymhwysiad sydd ei angen i ragori ar nodau a gyrru llwyddiant. Bydd yn siarad â ni trwy ei phrofiadau ym maes darlledu a'i chyflawniadau fel athletwr dygnwch eithafol o'r radd flaenaf ac anturiaethwr craff.
12:00 - 12:30
Sgwrs gyda Piers Linney
Mae Piers Linney, entrepreneur, buddsoddwr a chyn Ddraig ar Dragon’s Den yn trafod ei daith fel entrepreneur a buddsoddwr gyda’r gwesteiwr Jamie Owen, gan ddarparu mewnwelediad a chyngor ar sut i godi arian a graddio eich busnes.
13:00 - 13:15
Cloi
Darparwyd gan Banc Datblygu Cymru