Alex Leigh
Uwch Swyddog Buddsoddi,
Banc Datblygu Cymru
Mae Alex Leigh yn Uwch Swyddog Buddsoddi yn nhîm Buddsoddiadau Technoleg Menter (BMT) ym Manc Datblygu Cymru. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn busnesau cam cynnar a arweinir gan dechnoleg sy'n ceisio codi cyllid ecwiti. Mae ei ffocws yn sector-agnostig, ond mae ganddo ymgysylltiad agos â busnesau defnyddwyr. Cyn ymuno â'r Banc Datblygu yn 2018, enillodd Alex brofiad mewn ymchwil a datblygu, busnesau technoleg yn dechrau o'r newydd, ecwiti preifat a gwyrdroadau corfforaethol, mewn economïau datblygedig a rhai sy'n dod i'r amlwg. Mae ganddo radd peirianneg anrhydedd mewn Mecatroneg o Brifysgol Stellenbosch ac MBA o Brifysgol Cape Town ac Ysgol Busnes Llundain. Mae hefyd wedi pasio Lefel 1 y rhaglen CFA.
