Alison Thorne
Sylfaenydd atconnect
Mae Alison Thorne yn Gadeirydd, Cyfarwyddwr Anweithredol, Ymddiriedolwr ac aelod o'r Pwyllgor ynghyd â sylfaenydd atconnect, Cwmni Datblygu Busnes a Phobl.
Mae hi wedi cael gyrfa gorfforaethol ym maes manwerthu, gan ddechrau yn David Morgans Caerdydd yna bu ganddi rolau bwrdd gweithredol yn Mothercare, George yn Asda ac Otto UK gyda rolau arwain yn Kingfisher a Storehouse sy'n arbenigo mewn Prynu, Marchnata a Chyrchu.
Yna datblygodd ei gyrfa gan symud i Executive search fel partner mewn cwmni chwilio bwtîc, cyn sefydlu busnes ‘atconnect’ sy’n cefnogi cwmnïau i gyflawni trwy chwilio gweithredol a mentora.
Yn ddiweddar, penodwyd Alison yn Aelod Panel Arbennig ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus Cymru ac ar hyn o bryd hi yw Arweinydd Menywod ar Fyrddau, ac mae hi'n aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru lle mae'n aelod o'r Pwyllgor Cyllid ac Archwilio. Mae Alison wedi bod yn ymddiriedolwr ar gwmni Chwarae Teg ers mis Mawrth 2016 ac mae wedi eistedd ar y Pwyllgor Cyllid a Risg a'r Grŵp Arloesi Masnachol. Fe'i penodwyd yn Gadeirydd ym mis Gorffennaf 2018.
Yn y gorffennol, bu'n Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Ymgynghoriaeth Manwerthu ac fel ymddiriedolwr yn yr Ymddiriedolaeth Goedwig Drofannol (rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy)
