Dr Patrick Dodds
CEO,
Hexigone
Mae Patrick yn Gymrawd Menter yn yr Academi Beirianneg Frenhinol yn ogystal â Chymrawd Ymchwil Anrhydeddu yn y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe. Astudiodd Gemeg ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer ei radd gyntaf ac wedi hynny gweithiodd ym maes cemeg amgylcheddol ac ymchwil gwyddoniaeth fferyllol cyn arbenigo mewn cyrydiad a haenau. Mae ganddo MRes mewn Technoleg Dur ac EngD mewn Peirianneg Deunyddiau. Cyhoeddwyd ei ymchwil mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid a'i gyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol blaenllaw, gan gynnwys darlithoedd gwahoddedig yng Nghynhadledd Technoleg Gorchuddiadau Ewrop. Mae Patrick wedi ennill gwobrau gan yr Academi Frenhinol Peirianneg, y Gymdeithas Frenhinol ac 'Enginuity for Materials and Manufacturing'. Mae wedi dod yn ail ac yn enillydd yng Ngwobrau Blynyddol Innovista TATA ym Mumbai.
Datblygodd Patrick y dechnoleg Intelli-ion® yn ystod ei EngD, a oedd hefyd yn cynnwys treialu'r atalyddion cyfredol sy'n arwain y farchnad. Mae gan Patrick wybodaeth dechnegol ddwfn ar gyrydiad, ei fecanweithiau ac atebion ataliol cyrydiad, yn ogystal â chydweithrediadau rhyngwladol a datblygu busnes.
