Lucy Mayer-Page
Cyfarwyddwr Masnachol,
Vista
Lucy Mayer-Page yw Cyfarwyddwr Masnachol Vista Retail Support Ltd ac mae'n aelod o Fwrdd Strategaeth Cymru ICAEW. Mae hi'n Gyfrifydd Siartredig a bu'n gweithio yn PwC am 14 mlynedd, gan dreulio'r rhan fwyaf o'i hamser fel Uwch Reolwr mewn Gwasanaethau Trafodion, gan ddarparu gwasanaethau diwydrwydd dyladwy i gleientiaid ecwiti corfforaethol a phreifat. Yn flaenorol, bu Lucy yn gweithio gyda Cyllid Cymru (a adwaenir fel Banc Datblygu Cymru bellach) yn eu tîm ecwiti preifat fel Swyddog Portffolio. Wrth weithio yno daeth yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Vista ac arweiniodd ymadawiad ‘Cyllid Cymru’ o Vista cyn ymuno â’r cwmni i ddechrau fel Cyfarwyddwr Cyllid. Enillodd allbryniant rheolwyr Vista “Fargen y Flwyddyn” yng ngwobrau Dealmakers Cymru yn 2014. Yn ystod ei chyfnod fel Cyfarwyddwr Masnachol, mae Lucy wedi negodi ac arwyddo contractau gyda nifer o gwmnïau manwerthu, hamdden a TG proffil uchel. Mae hi'n ymwneud yn helaeth â gosod cyfeiriad strategol Vista.
