top of page

Steve Holt

Cyfarwyddwr,
Angylion Buddsoddi Cymru

Steve Holt yw Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru. Mae ganddo brofiad sylweddol ym maes datblygu economaidd, ar ôl arwain timau a rhaglenni Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Datblygu Cymru, gan hyrwyddo arloesedd, masnach, datblygu'r gadwyn gyflenwi ac yn arbennig buddsoddiad o'r tu allan (a adwaenir fel FDI). Yn y gorffennol mae wedi sefydlu timau a swyddfeydd yn Ewrop ac yn fwy diweddar yn Llundain. Yn beiriannydd mecanyddol yn ôl proffesiwn, mwynhaodd Steve yrfa reoli mewn gweithgynhyrchu contractau cyn symud i'r sector gyhoeddus 20 mlynedd yn ôl. Mae'n gymrawd o'r Sefydliad Rheolaeth Siartredig ac mae ganddo MBA o Brifysgol Morgannwg.

Steve Holt_edited_edited.jpg
bottom of page